14 – Erthyliad

Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Erthyliad.

Top 3 Penillion Mwyaf Arwyddocaol

“

Aberthasant hefyd eu meibion a'u merched i gythreuliaid, Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a'u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a'r tir a halogwyd â gwaed.

”
“

Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di, Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt? Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

”
“

Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.

”

Pob Adnod yn Nhrefn y Beibl – 96 adnodau

“

Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.

”
“

A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw DUW y gwnaeth efe ddyn.

”
“

Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.

”
“

Na ladd.

”
“

Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.

”
“

Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr. Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

”
“

Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael. Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na'r gwirion na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.

”
“

Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a'i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid.

”
“

Ac na ddod o'th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy DDUW: myfi yw yr ARGLWYDD.

”
“

A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o'r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o'i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a'i llabyddiant ef â cherrig. A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd. Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef: Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.

”
“

A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.

”
“

Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw. Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

”
“

Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga'r tir: a'r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a'i tywalltodd.

”
“

Na ladd.

”
“

Na wna di felly i'r ARGLWYDD dy DDUW: canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr ARGLWYDD, a wnaethant hwy i'w duwiau: canys eu meibion hefyd a'u merched a losgasant yn tân i'w duwiau.

”
“

Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,

”
“

Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.

”
“

Galw yr wyf yn dyst i'th erbyn heddiw y nefoedd a'r ddaear, roddi ohonof o'th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a'th had;

”
“

Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy'r tân, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

”
“

A hwy a dynasant eu meibion a'u merched trwy'r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef.

”
“

A'r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a'r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.

”
“

Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef.

”
“

Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

”
“

Ac efe a yrrodd ei feibion trwy'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef.

”
“

Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt. Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn? Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws? Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.

”
“

Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.

”
“

Onid yr hwn a'm gwnaeth i yn y groth, a'i gwnaeth yntau? ac onid yr un a'n lluniodd yn y bru?

”
“

ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; I farnu yr amddifad a'r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

”
“

Canys ti a'm tynnaist o'r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. Arnat ti y'm bwriwyd o'r bru: o groth fy mam fy NUW ydwyt.

”
“

Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd. Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i'm herbyn; nid ar fy mai na'm pechod i, O ARGLWYDD. Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i'm cymorth, ac edrych.

”
“

Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd.

”
“

Wrthyt ti y'm cynhaliwyd o'r bru; ti a'm tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.

”
“

Bernwch y tlawd a'r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus. Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.

”
“

Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r amddifad a ddieneidiant. Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn. Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

”
“

A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa i mi: a'm DUW yw craig fy nodded. Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a'u tyr hwynt ymaith.

”
“

Aberthasant hefyd eu meibion a'u merched i gythreuliaid, Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a'u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a'r tir a halogwyd â gwaed. Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda'u dychmygion. Am hynny y cyneuodd dig yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

”
“

Dy ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.

”
“

Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

”
“

Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda. Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear. Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.

”
“

Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.

”
“

Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i'r pydew:

”
“

Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth. Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a'r dwylo a dywalltant waed gwirion,

”
“

Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â'r neb sydd barod i'w lladd? Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

”
“

Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i'r pwll; nac atalied neb ef.

”
“

Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith DUW, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.

”
“

A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed. Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig, gwnewch farn i'r amddifad, dadleuwch dros y weddw. Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â'r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.

”
“

Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.

”
“

Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a'r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.

”
“

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a'th wnaeth, ac a'th luniodd o'r groth, efe a'th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.

”
“

Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:

”
“

Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o'r groth, ac a arweddwyd o'r bru:

”
“

Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr ARGLWYDD a'm galwodd o'r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.

”
“

Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'm DUW fydd fy nerth.

”
“

A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.

”
“

A ddygaf fi i'r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr ARGLWYDD: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy DDUW.

”
“

Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a'th adnabûm; a chyn dy ddyfod o'r groth, y sancteiddiais di; a mi a'th roddais yn broffwyd i'r cenhedloedd.

”
“

Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll. Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.

”
“

A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.

”
“

Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na'u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa. A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

”
“

Am na laddodd fi wrth ddyfod o'r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.

”
“

Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.

”
“

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt.

”
“

A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i'w meibion a'u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.

”
“

Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di, Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt? Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed. A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr ARGLWYDD DDUW,)

”
“

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt; Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni. Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.

”
“

Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.

”
“

Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, nid ymofynnir â mi gennych.

”
“

Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i'w hysu. Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabothau a halogasant. Canys pan laddasant eu meibion i'w heilunod, yna y daethant i'm cysegr yn y dydd hwnnw, i'w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ.

”
“

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.

”
“

Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.

”
“

Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:

”
“

Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.

”
“

A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

”
“

Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern. Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys daeth Mab y dyn i gadw'r hyn a gollasid.

”
“

Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli'r un o'r rhai bychain hyn.

”
“

A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

”
“

Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth,

”
“

Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.

”
“

Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o'r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.

”
“

A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Ysbryd Glân. A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth.

”
“

(Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd;)

”
“

Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.

”
“

Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi.

”
“

Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni'r plentyn, nid yw hi'n cofio'i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i'r byd.

”
“

Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â'r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.

”
“

Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i'w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad.

”
“

Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

”
“

Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neilltuodd i o groth fy mam, ac a'm galwodd i trwy ei ras, I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:

”
“

Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.

”
“

Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,

”
“

Canys megis y mae'r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

”
“

Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.

”
“

Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda.

”
“

Pob un a'r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

”
“

A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?

”
“

Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

”

Welsh - Cymraeg - CY

BWM - Beibl William Morgan - 1620

This Bible text is Public Domain.
https://www.bible.com/versions/3563-bwmg1588-y-beibl-cyssegr-lan-1588-william-morgan-argraffiad-gwreiddiol/
Languages are made available to you by www.ipedge.net