13 – Gwrywgydiaeth
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Gwrywgydiaeth.
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Gwrywgydiaeth.
Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
”Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i'r hon sydd yn erbyn anian: Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd:
”Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.
”Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.
”Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
”Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a'u pechod hwynt yn drwm iawn; Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod. A'r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr ARGLWYDD. Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â'r annuwiol? Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o'i mewn hi? Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda'r annuwiol, fel y byddo'r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn? A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt. Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw. Ond odid bydd pump yn eisiau o'r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain. Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain. Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain. Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain. Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.
”A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â'i wyneb tua'r ddaear; Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i'ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i'w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant. Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr; Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl; Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri'r ddôr. A'r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr. Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio'r drws.
”A'r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a'th feibion, a'th ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o'r fangre hon. Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr ARGLWYDD: a'r ARGLWYDD a'n hanfonodd ni i'w ddinistrio ef. Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o'r fan yma; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difetha'r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair. Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a'th ddwy ferch, y rhai sydd i'w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas. Yntau a oedd hwyrfrydig, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o'r ARGLWYDD wrtho ef; ac a'i dygasant ef allan, ac a'i gosodasant o'r tu allan i'r ddinas. Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i'r mynydd, rhag dy ddifetha.
”Yna yr ARGLWYDD a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr ARGLWYDD, allan o'r nefoedd.
”Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o'i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.
”Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny.
”A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
”Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bawb a'r a wnêl hyn.
”Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd. Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.
”Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
”Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.
”Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo'r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd;
”O ba herwydd Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i'r hon sydd yn erbyn anian: Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â'r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.
”Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
”Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion, I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;
”Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth; Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol; Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni: Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:
”Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
”Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.
”Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.
”