15 – Meddwdod
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Meddwdod.
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Meddwdod.
Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
”Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.
”Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.
”A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan: Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell. A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
”Gwin a diod gadarn nac yf di, na'th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân;
”Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.
”A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.
”Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt. Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.
”Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.
”Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.
”Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a'r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
”Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.
”Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
”Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.
”Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig. Canys y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.
”I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion? I'r neb sydd yn aros wrth y gwin: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig. Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr. Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd. Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren. Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a'i ceisiaf drachefn.
”Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon. Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
”Gwyn dy fyd di y wlad sydd â'th frenin yn fab i bendefigion, a'th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.
”Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt. Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a'r nabl, y dympan, a'r bibell, a'r gwin: ond am waith yr ARGLWYDD nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.
”Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn:
”Cymysgodd yr ARGLWYDD ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i'r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.
”Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant. Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn. Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith. Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.
”Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a'i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.
”Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.
”Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.
”Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a'r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.
”Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn.
”Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.
”Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin? Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, â meddwdod. Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion ynghyd, medd yr ARGLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
”Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr ARGLWYDD, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef.
”Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt. A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.
”A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.
”A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win. Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd:
”Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.
”Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo. Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria. Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd i ti fy anghofio, a'm bwrw ohonot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a'th buteindra.
”Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.
”A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.
”Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
”Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a'th dywysogion, dy wragedd a'th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a'th holl ffyrdd yn eiddo.
”Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.
”Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a'i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.
”Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.
”Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
”Ond chwi a roesoch i'r Nasareaid win i'w yfed; ac a orchmynasoch i'ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch.
”Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â'r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.
”Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.
”Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
”Gwae a roddo ddiod i'w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt! Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.
”Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.
”Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon; Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
”Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o'r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.
”Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
”Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r anffyddloniaid.
”Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;
”A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
”Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt. Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau: Canys nid yw'r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi. Eithr hyn yw'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd Joel;
”Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
”Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.
”Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.
”Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.
”Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
”Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.
”Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
”Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.
”Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
”Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd; Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;
”Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a'r rhai a feddwant, y nos y meddwant. Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
”Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar;
”Rhaid i'r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa;
”Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.
”Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth. Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd.
”Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;
”Bod o'r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: Bod o'r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:
”Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:
”Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;
”Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anwybodaeth: Eithr megis y mae'r neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
”Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:
”Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio'r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni'r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.
”Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.
”Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb.
”Gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi.
”Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.
”