17 – Crefyddau Ffug

Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Crefyddau Ffug.

Top 3 Penillion Mwyaf Arwyddocaol

Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â'u gwddf. Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Pob Adnod yn Nhrefn y Beibl – 176 adnodau

A'r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o'r ardd?

A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd i weled y ddinas a'r tŵr a adeiladai meibion dynion. A dywedodd yr ARGLWYDD, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a'r a amcanasant ei wneuthur. Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. Felly yr ARGLWYDD a'u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr ARGLWYDD hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr ARGLWYDD a glybu dy gystudd di. Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr.

Ac Abraham a ddywedodd wrth DDUW, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di! A DUW a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â'i had ar ei ôl ef. Am Ismael hefyd y'th wrandewais: wele, mi a'i bendithiais ef, a mi a'i ffrwythlonaf ef, ac a'i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.

Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a brynasai efe â'i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai DUW wrtho ef.

A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff. A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aifft, a wnaethant felly trwy eu swynion. Canys bwriasant bob un ei wialen; a hwy a aethant yn seirff: ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt. A chalon Pharo a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a'r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft. A'r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.

Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft. A'r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu'r llau ar ddyn ac ar anifail. Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys DUW yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

A'r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.

Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

Na chaffed hudoles fyw.

Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r ARGLWYDD yn unig.

Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.

Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o'r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch ataf fi. A'r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a'u dygasant at Aaron. Ac efe a'u cymerodd o'u dwylo, ac a'i lluniodd â chŷn, ac a'i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a'th wnaf di yn genhedlaeth fawr.

A Moses a ddychwelodd at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt. Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr ARGLWYDD, Eiddigus yw ei enw; DUW eiddigus yw efe; Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwyta o'u haberth; A chymryd ohonot o'u merched i'th feibion; a phuteinio o'u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt. Na wna i ti dduwiau tawdd.

Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.

Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr ARGLWYDD eich DUW ydwyf fi.

Na fwytewch ddim ynghyd â'i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.

Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr ARGLWYDD ydwyf fi.

Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â'r brudwyr, i ymhalogi o'u plegid: yr ARGLWYDD eich DUW ydwyf fi.

Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o'r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o'i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a'i llabyddiant ef â cherrig. A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

A'r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a'm henaid a'ch ffieiddia chwi.

Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.

Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn Horeb, o ganol y tân,) Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw, Llun un anifail a'r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr, Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a'r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear; Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua'r nefoedd, a gweled yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, sef holl lu y nefoedd, a'th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i'r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

Oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd dân ysol, a DUW eiddigus.

Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a'r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o'ch amgylch chwi: (Oblegid DUW eiddigus yw yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy fysg di,) rhag i lid yr ARGLWYDD dy DDUW ennyn yn dy erbyn, a'th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i'w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i'th fab dithau. Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr ARGLWYDD i'ch erbyn chwi, ac a'th ddifetha di yn ebrwydd Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.

Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas. Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o'r lle hwnnw. Na wnewch felly i'r ARGLWYDD eich DUW.

Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o'th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd. Na wna di felly i'r ARGLWYDD dy DDUW: canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr ARGLWYDD, a wnaethant hwy i'w duwiau: canys eu meibion hefyd a'u merched a losgasant yn tân i'w duwiau.

Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, A dyfod i ben o'r arwydd, neu'r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr ARGLWYDD eich DUW sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru'r ARGLWYDD eich DUW â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.

Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a'th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na'th dadau; Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o'ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i'r tir hyd gwr arall y tir: Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:

Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais; Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel; Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i'th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.

Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â'r meirw: Oherwydd ffieidd‐dra gan yr ARGLWYDD yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu gyrru hwynt allan o'th flaen di.

Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.

Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr ARGLWYDD, gwaith dwylo crefftwr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel. A'r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.

A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd‐dra y digiasant ef. Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.

Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â'r peth nid oedd DDUW; digiasant fi â'u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD; ond ni wnaethant hwy felly.

A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na'u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â'u gweithredoedd eu hunain, nac â'u ffordd wrthnysig.

A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.

A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein DUW, a gwasanaethu Baalim hefyd.

Eto chwi a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach. Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra. A meibion Israel a ddywedasant wrth yr ARGLWYDD, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn. A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o'u mysg, ac a wasanaethasant yr ARGLWYDD: a'i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.

A'r Philistiaid a gymerasant arch DUW, ac a'i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a'i gosodasant yn ymyl Dagon. A'r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a'i gosodasant eilwaith yn ei le. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn. A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a'u distrywiodd hwynt, ac a'u trawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynau, â chlwyf y marchogion. A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch DUW Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a'th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.

A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a'i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad.

Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?

A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid. A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon. Ac felly y gwnaeth efe i'w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i'w duwiau.

Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a'm barnedigaethau, fel Dafydd ei dad.

Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air. Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a'i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano. A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a'r DUW a atebo trwy dân, bydded efe DDUW. A'r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.

Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano. A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A'r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid. Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. Ac efe a adeiladodd â'r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a'i gosododd ar y coed; Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr.

A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. Yna tân yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r coed, a'r cerrig, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. A'r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW. Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a'u daliasant: ac Eleias a'u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a'u lladdodd hwynt yno.

Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a'i hudoliaeth, mor aml?

A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a'u llosgasant hwy. A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a'i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio'r ARGLWYDD. A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu DUW. A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â'u tadau hwynt, a'i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i'w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o'u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt. A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu DUW, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. A hwy a dynasant eu meibion a'u merched trwy'r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef. Am hynny yr ARGLWYDD a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a'u bwriodd hwynt allan o'i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.

Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.

Yr ARGLWYDD yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno. Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr ARGLWYDD, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na'r gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel. A'r ARGLWYDD a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a'i galwodd hi Nehustan.

Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa'r holl genhedloedd a'u tir, A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef.

Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na'r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o'i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod: Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a'i clywant.

Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac a ymgrymodd iddynt:

Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i'r haul, ac i'r lleuad, ac i'r planedau, ac i holl lu'r nefoedd. Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr ARGLWYDD, i'r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a'i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl. Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i'r llwyn. Ac efe a ddug yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Jwda, ac a halogodd yr uchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogldarthu arnynt, o Geba hyd Beerseba, ac a ddistrywiodd uchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw aswy i bawb a ddelai i borth y ddinas.

Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD.

Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi;

Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

Ac efe a osododd iddo offeiriaid i'r uchelfeydd, ac i'r cythreuliaid, ac i'r lloi a wnaethai efe.

Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a'r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:

A hwy a adawsant dŷ ARGLWYDD DDUW eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a'r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.

Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a'i trawsent ef; ac efe a ddywedodd, Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y'm cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd. Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ DDUW, ac a ddarniodd lestri tŷ DDUW, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem. Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd ARGLWYDD DDUW ei dadau.

Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.

Ac efe a yrrodd ei feibion trwy'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef. Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.

Gofidiau a amlhânt i'r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

Digiasant ef hefyd â'u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â'u cerfiedig ddelwau. Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:

Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau.

A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt. Aberthasant hefyd eu meibion a'u merched i gythreuliaid, Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a'u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a'r tir a halogwyd â gwaed.

Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â'u gwddf. Y rhai a'u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o'r dwyrain, a'u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.

Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:

Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i'w haddoli, i'r wadd ac i'r ystlumod:

A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â'r swynyddion, ac â'r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â'u DUW yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.

Pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf. Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.

Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.

Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd‐ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith.

Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy enw: a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.

Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.

Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a'm gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o'm blaen nid oedd DUW wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a'i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes DUW ond myfi.

Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt. Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles? Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant. Y gof â'r efel a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio. Y saer pren a estyn ei linyn; efe a'i llunia hi wrth linyn coch; efe a'i cymhwysa hi â bwyeill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ. Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha. Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a'i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a'i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.

A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt. Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys DUW a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, a'u calonnau rhag deall.

Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid arall, nid oes DUW ond myfi; gwregysais di, er na'm hadwaenit:

Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub.

Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant. Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a'i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o'i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o'i gystudd.

Saf yn awr gyda'th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o'th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus. Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat. Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a'u llysg hwynt; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam: ni bydd marworyn i ymdwymo, na thân i eistedd ar ei gyfer. Felly y byddant hwy i ti gyda'r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o'th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei duedd; nid oes un yn dy achub di.

Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll? Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.

Y plant sydd yn casglu cynnud, a'r tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i'm digio i.

A hwy a'u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisiasant, a'r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.

Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o'r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.

Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a'r ddaear, difethir hwynt o'r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.

Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.

A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?

Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na'u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa.

A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr.

Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.

Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i'ch gyrru chwi ymhell o'ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.

Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef. A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i'w meibion a'u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.

Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt. Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.

A dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a'r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch?

Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.

Y gwŷr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi? Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pob un o dŷ Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr ARGLWYDD a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod, I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.

Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra. Canys pob un o dŷ Israel, ac o'r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef; myfi yr ARGLWYDD a atebaf iddo trwof fy hun.

Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu.

Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i'r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: Ond y mae DUW yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i'r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:

Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o'u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o'r tywysogion pennaf, a ddaeth i'm cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.

Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.

A thorraf ymaith o'th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid: Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a'th ddelwau o'th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.

Pa les a wna i'r ddelw gerfiedig, ddarfod i'w lluniwr ei cherfio; i'r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion? Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.

Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â'r offeiriaid; A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r ARGLWYDD, a hefyd a dyngant i Malcham;

Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr ARGLWYDD, yr hwn a hoffasai, ac a briododd ferch duw dieithr. Yr ARGLWYDD a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn; yr athro a'r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwm i ARGLWYDD y lluoedd.

Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni? Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd; a'r hyn a aned o'r Ysbryd, sydd ysbryd. Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd.

Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw.

Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.

Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.

Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.

Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.

Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr: Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn. Ac yr oeddynt â'u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion. Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd. A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a'r nerthoedd mawrion a wneid.

Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Bar‐iesu; Yr hwn oedd gyda'r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw. Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd. Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef, Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd? Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law. Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.

A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf. Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu. A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain, A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:

A digwyddodd, a ni'n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth. Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.

Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau:

Llawer hefyd o'r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian.

Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.

Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.

Am fwyta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)

Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth.

Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim? Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid. Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid. Ai gyrru'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef?

Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y'ch tywysid. Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy'r Ysbryd Glân.

A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun? A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.

Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist. Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.

Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. Eithr pe byddai i ni, neu i angel o'r nef, efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema. Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.

Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu;

Ac y mae'r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid;

Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:

Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.

Pwy yw'r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw'r Crist? Efe yw'r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu'r Tad a'r Mab. Pob un a'r sydd yn gwadu'r Mab, nid oes ganddo'r Tad chwaith: [ond] yr hwn sydd yn cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.

Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i'r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a'r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob ysbryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a'r awron y mae efe yn y byd eisoes.

Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.

Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.

Pob un a'r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae'r Tad a'r Mab ganddo. Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.

A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio: Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.

A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo'r holl fyd: efe a fwriwyd allan i'r ddaear, a'i angylion a fwriwyd allan gydag ef.

A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r bwystfil: ac a addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r bwystfil? pwy a ddichon ryfela ag ef?

A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw'r bwystfil, fel y llefarai delw'r bwystfil hefyd, ac y parai gael o'r sawl nid addolent ddelw'r bwystfil, eu lladd. Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau: Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw'r bwystfil, neu rifedi ei enw ef. Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi'r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a'i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.

A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra. Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA'R DDAEAR. Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.

A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.

Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

Welsh - Cymraeg - CY

BWM - Beibl William Morgan - 1620

This Bible text is Public Domain.
https://www.bible.com/versions/3563-bwmg1588-y-beibl-cyssegr-lan-1588-william-morgan-argraffiad-gwreiddiol/
Languages are made available to you by www.ipedge.net