06 – Uffern

Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Uffern.

Top 3 Penillion Mwyaf Arwyddocaol

A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth. A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.

Canys os o'n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa'r gwrthwynebwyr.

Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Pob Adnod yn Nhrefn y Beibl – 123 adnodau

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddileaf allan o'm llyfr. Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i'r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr ARGLWYDD a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini'r mynyddoedd ffaglu.

Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i'r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.

Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.

Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

Gofidiau uffern a'm cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.

Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a'u llwnc hwynt, a'r tân a'u hysa hwynt.

Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda'r rhai cyfiawn.

Caseion yr ARGLWYDD a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a'u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.

Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.

Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i'w dinistrio byth bythoedd.

Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn: Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

Yr ARGLWYDD sydd yn cadw pawb a'i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.

Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.

Uffern a dinistr sydd gerbron yr ARGLWYDD: pa faint mwy, calonnau plant dynion?

Ffordd y bywyd sydd fry i'r synhwyrol, i ochel uffern obry.

Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw. Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.

Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn. Canys DUW a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.

A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd: Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr ARGLWYDD: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

Udwch; canys agos yw diwrnod yr ARGLWYDD; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw. Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd: A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd. Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni. Canys sêr y nefoedd, a'u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch. A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.

Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear a grŷn o'i lle, yn nigofaint ARGLWYDD y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef.

Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? Disgynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a'th doant.

Pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf. Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.

Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.

Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a'r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.

Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.

Canys y bedd ni'th fawl di, angau ni'th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.

Canys, wele, yr ARGLWYDD a ddaw â thân, ac â'i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a'i gerydd â fflamau tân. Canys yr ARGLWYDD a ymddadlau â thân ac â'i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr ARGLWYDD fyddant aml.

A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i'm herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a'u tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd.

Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.

Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a'i roddi i'w losgi yn tân.

Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser. Yna yr eistedd y farn, a'i lywodraeth a ddygant, i'w difetha ac i'w distrywio hyd y diwedd.

A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.

Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.

A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Sadwceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

Ac yr awr hon hefyd y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.

Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.

Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng: canys eang yw'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw'r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: Oblegid cyfyng yw'r porth, a chul yw'r ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd; ac ychydig yw'r rhai sydd yn ei chael hi.

Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.

Y dyn da, o drysor da'r galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.

A'r maes yw'r byd; a'r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg; A'r gelyn yr hwn a'u heuodd hwynt, yw diafol; a'r cynhaeaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw'r angylion. Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a'u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnânt anwiredd; Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.

Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.

Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.

Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.

A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?

Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i'r briodas: a chaewyd y drws. Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.

A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr: Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.

Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i'w angylion. Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: Bûm ddieithr, ac ni'm dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i'r un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. A'r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr. Ac os dy law a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy: Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd. Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy: Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd. Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef. A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i'r dyfnder.

Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha'i hun, neu fod wedi ei golli?

A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.

Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.

Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.

A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymdrechwch am fyned i mewn trwy'r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau'r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.

Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd: Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a'i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, Ac yn chwenychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu, i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon. Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo'r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna, dramwy atom ni. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad; Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn. Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.

Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw. A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. Oherwydd pob un a'r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu'r goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.

Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Na ryfeddwch am hyn: canys y mae'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.

Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.

Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth.

Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd. Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid;

Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: Sef i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: Eithr i'r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint;

Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.

Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.

Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. Felly gan hynny pob un ohonom drosto'i hun a rydd gyfrif i Dduw.

Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y'n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.

Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.

A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist: Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:

Canys os o'n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa'r gwrthwynebwyr.

Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo'r Duw byw.

Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd: Trwy'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysbrydion yng ngharchar;

Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu'r Arglwydd yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.

Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth; Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol; Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni: Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: Lle nid yw'r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd.

Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i'r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.

Eithr y nefoedd a'r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy'r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.

Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.

Pob un a'r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

A hon yw'r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.

Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.

Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.

A'r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth.

Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

A'r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o'r nef i'r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.

A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli'r bwystfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef.

A'r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddistryw y mae'n myned.

Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas. Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.

A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd. Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.

Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.

Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw. A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân. Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.

Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr; Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.

A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan. A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.

Ac mi a welais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd, Ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe'r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni'r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.

A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt. A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.

Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt. Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth. A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.

Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.

Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.

Welsh - Cymraeg - CY

BWM - Beibl William Morgan - 1620

This Bible text is Public Domain.
https://www.bible.com/versions/3563-bwmg1588-y-beibl-cyssegr-lan-1588-william-morgan-argraffiad-gwreiddiol/
Languages are made available to you by www.ipedge.net