Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed: Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant. Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae'r drwg yn dyfod, ac yn cipio'r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma'r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. A'r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. A'r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu'r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.