04 – Cread
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Cread.
Dyma eiriau sanctaidd Duw Hollalluog.
Nid oes gennym ddiddordeb yng ngeiriau bodau dynol.
I unrhyw un sy'n caru Duw... dyma beth mae Duw yn ei ddweud amdano: Cread.
Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a'r ddaear.
”Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar.
”Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:
”Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a'r ddaear. A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch. A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.
”DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd. A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. A'r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, yr ail ddydd.
”DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. A'r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd. A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.
”DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu'r dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu'r nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe. Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear, Ac i lywodraethu'r dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.
”DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. A DUW a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd. A DUW a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pumed dydd.
”DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.
”DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. DUW hefyd a'u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear. A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi. Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.
”Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt. Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe. A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i'w wneuthur.
”Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd, A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear. Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear. A'r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
”Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef. Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a'u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt. Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a'i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
”Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.
”Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.
”Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr ARGLWYDD.
”Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o'th flaen di, o'r dydd y creodd DUW ddyn ar y ddaear, ac o'r naill gwr i'r nefoedd hyd y cwr arall i'r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:
”Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr ARGLWYDD dy DDUW, y ddaear hefyd a'r hyn oll sydd ynddi.
”Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
”Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.
”A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.
”I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
”Ti yn unig wyt ARGLWYDD: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaear a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.
”Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o'i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.
”Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn? Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.
”Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim. Y mae efe yn rhwymo'r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy. Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi. Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch. Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.
”Ysbryd DUW a'm gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i.
”Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o'r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
”Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a'i nerth ym mogel ei fol. Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.
”Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist;
”Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
”I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant DUW; a'r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.
”Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd: i'r haul y gosododd efe babell ynddynt;
”Salm Dafydd. Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear, a'i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo. Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.
”Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a'u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
”Y nefoedd ydynt eiddot ti, a'r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a'i gyflawnder. Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
”Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a'r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
”Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
”Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo. Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
”Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a'i weinidogion yn dân fflamllyd. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.
”Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o'th gyfoeth. Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
”Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a'u hoffant.
”Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear. Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr ARGLWYDD: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
”Dyma y dydd a wnaeth yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
”Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
”Ein porth ni sydd yn enw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
”Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
”Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd: Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
”Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
”Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a'r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:
”Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
”Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.
”Yr ARGLWYDD a'm meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. Pryd nad oedd dyfnder y'm cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y'm cenhedlwyd: Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na'r meysydd, nac uchder llwch y byd. Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a'm hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
”Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o'r ddau.
”A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o'i ogoniant ef.
”Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.
”Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni'm gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a'i lluniodd, Nid yw ddeallus?
”ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt DDUW, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.
”Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a'r bryniau mewn cloriannau?
”Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear? Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi:
”Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a'u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla un.
”Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina DUW tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
”Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a'i hestynnydd; lledydd y ddaear a'i chnwd; rhoddydd anadl i'r bobl arni, ac ysbryd i'r rhai a rodiant ynddi:
”Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
”Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:
”Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a'i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo. Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
”Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y DUW ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i'w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen.
”Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf. Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a'm deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.
”Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd?
”Ond yn awr, O ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
”Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf? Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a'r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.
”Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y DUW byw, a'r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a'r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a'r ddaear, difethir hwynt o'r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.
”Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.
”O ARGLWYDD DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, â'th fawr allu ac â'th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.
”Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall.
”Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a'u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw:
”Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a'u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.
”Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.
”Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr.
”Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.
”Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
”Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.
”Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.
”Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r byd nid adnabu ef.
”A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
”Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i'm gorffwysfa i?
”A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:
”Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.
”Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:
”(Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau'r meirw, ac sydd yn galw'r pethau nid ydynt, fel pe byddent:
”Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb:
”Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd: Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.
”Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd. Amen.
”Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
”Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar.
”Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. Y dyn cyntaf o'r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef. Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.
”Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.
”Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:
”Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
”Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd;
”Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:
”Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.
”Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.
”Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain. Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth. Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a'r ddaear yn cydsefyll o'r dwfr a thrwy'r dwfr. Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd. Eithr y nefoedd a'r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy'r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda'r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.
”Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
”Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, na byddai amser mwyach:
”Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl: Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.
”